Y Pwyllgor  Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir

16 Mawrth 2015

 

 

CLA495 Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) ac mae’n dynodi Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd yn awdurdod trwyddedu ar gyfer Cymru gyfan at ddibenion Rhan 1 o’r Ddeddf.